First4Numbers mobile screenshot
First4Numbers desktop screenshot
first4numbers-editor.png Requirements and solutionRoedd y wefan bresennol yn gadael i gwsmeriaid ddewis cynnyrch, llunio eu cynlluniau eu hunain ac archebu. Ond, gan amlaf roedd angen i staff First4Numbers gadw llygad ar yr archebion hyn o hyd er mwyn eu gwirio a dychwelyd proflenni gwirio cwsmeriaid cyn printio archeb. Roedd angen i’r wefan newydd wneud y proses hwn yn un awtomatig yn llwyr. Buasai hyn yn rhyddhau amser y staff ac yn gadael i’r tîm drin llawer iawn mwy o archebion. Mae’r wefan newydd yn defnyddio llawer iawn o waith awtomatig, ond mae’n sicrhau hefyd ei bod yn ddigon syml i bobl gyffredin ei defnyddio. Cafodd proses syml iawn ei ddylunio, gyda phrosesarchebu unigryw sy’n caniatáu i gleientiaid uwchlwytho logo eu clwb, dewis lliwiau a llawer iawn o bethau eraill - gyda’r pris yn newid yn syth i gyd-fynd ag unrhyw newid. Mae’r wefan wedi’i gosod gyda’r bwriad o’i ehangu ymhellach yn Ewrop, ac yna ymhellach fyth,gyda’r gallu i roi dyfynbrisiau a derbyn taliadau mewn sawl math o arian gwahanol, cyfrifo costau danfon rhyngwladol ac ymddangos mewn ieithoedd eraill.