Y gofynion a’r atebRoedd APM yn gwybod fod arno angen system rheoli hawliadau oedd wedi’i datblygu’n arbennig i gefnogi ei fusnes hawliadau yswiriant diogelu taliadau. Fe wnaeth Website Express ddatblygu system swyddfa gefn gyflawn ar ei gyfer oedd yn cynnwys system rheoli benodol i fenthycwyr, ymgyrchoedd hysbysebu, cleientiaid, hawliadau ac adroddiadau cyswllt. Mae modd mewnfudo gwybodaeth cwsmeriaid newydd o farchnata teledu uniongyrchol a hysbysebu ar-lein i’r system, sydd yna’n gallu cynhyrchu ffurflenni cais a llythyrau gyda dewisiadau o flaen llaw ar gyfer pob cam o’r proses hawlio (ar hyn o bryd mae 16 math gwahanol o lythyr neu ffurflen y mae modd eu cynhyrchu a’u hanfon at gleientiaid, benthycwyr a’r ombwdsmon ariannol.) Mae adroddiadau cynhyrchu yn olrhain cyllid hysbysebu ac effeithlonrwydd gweithiwr, ac mae cyfres adrodd lawn ar gael i reolwyr ac asiantiaid i fynd at fenthycwyr, cleientiaid ac achosion penodol. Mae modd hidlo a threfnu’r adroddiadau, a’u hallforio i ffurf CSV neu Excel.