Ein Gwasanaethau

Faint mae cynllun eich gwefan wedi’i ddatblygu?
Fe allwn ni eich helpu i ddatblygu’r briff,
os hoffech chi.

Ymgynghori am eich gwefan

Ymgynghori am eich gwefan

Beth all eich gwefan ei wneud er mwyn cyfrannu’n effeithiol at eich busnes neu fudiad? Mae’r cyfnod lle’r oedd gwefannau yn ddim ond llyfryn syml wedi hen fynd. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wybod beth all eich gwefan ei gyfrannu – sut bydd yn cysylltu gydag ymwelwyr, sut bydd eich tîm yn ei rheoli a’i diweddaru a sut bydd yn marchnata neu yn gwerthu eich cynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth.Gyda mudiadau mwy, rydym ni’n gyfarwydd â chynnal cyfarfodydd hel syniadau sydyn gyda’r tîm, er mwyn dyfeisio’r ffordd fwyaf effeithiol i’r wefan gwrdd â llawer o wahanol nodau’r mudiad. Mae’r proses yn arwain at ddiffiniad briff clir ar gyfer prosiect y wefan gydag amserlen a phrisiau.
Cynllun y wefan

Cynllun y wefan

Mae cynllun gwefan da a wnelo mwy na dim ond lluniau graffig. Yma yn Website Express, rydym ni am i’ch gwefan edrych yn dda, ond iddi weithio’n effeithiol hefyd, a hynny ar bob dyfais y bydd yn ymddangos arni - cyfrifiadur, llechen, ffôn clyfar. Mae ein gwaith ar y dechrau yn canolbwyntio ar sicrhau fod cynllun y wefan a’r neges gaiff ei throsglwyddo yn addas i’ch cynulleidfa benodol, yn ogystal â datblygu cynllun arbennig.Rydym ni’n dilyn dull dadansoddol o ddylunio ac yn defnyddio gwaith ymchwil i ddilyn arfer da gyda defnyddioldeb a fyddwn ni byth yn dilyn y tueddiadau diweddaraf heb eu cwestiynu.
Datblygu’r wefan

Datblygu’r wefan

Dylai eich gwefan greu elw ar fuddsoddiad ichi. Mae angen iddi fod yn ddigon hyblyg i allu ehangu a thyfu gyda’ch busnes ac wrth i dechnoleg newid. Os ydych chi angen gwefan sy’n arwain ar wybodaeth, cyfrwng i farchnata neu beiriant gwerthu effeithiol, rydym ni’n cyfuno eich anghenion gyda’n profiad er mwyn darparu’r wefan gywir.Yma yn Website Express, rydym ni’n gweithio’n galed i sicrhau eich bod chi’n gallu mesur a gwella gwerth eich gwefan gydag amser. Dyna pam bod rhan helaeth o’n cleientiaid yn aros gyda ni er mwyn parhau i ddatblygu eu gwefannau wrth i’w busnes esblygu.
Asiantaeth datblygu Drupal

Asiantaeth datblygu Drupal

Rydym ni’n gweithio gyda Drupal yn unig. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r maes TG, yr hyn sydd angen ichi wybod ydy fod Drupal yn system llunio gwefannau proffesiynol, o safon ac sydd wedi hen sefydlu a bod mudiadau mawr a bach ledled y byd yn ei ddefnyddio. Os ydych chi’n gyfarwydd â’r maes, dylech chi wybod fod sylfaenwyr Website Express yn ddatblygwyr ac yn ddefnyddwyr profiadol o Drupal sydd hefyd yn cyfrannu at gymuned datblygu Drupal.