Cynnal

CYNNAL Drupal

Dydy’r wefan orau yn dda i ddim os ydy hi’n llwytho’n araf neu ddim ar gael pan fydd ymwelwyr yn ceisio mynd arni; gan amlaf, mae’r problemau hyn yn amlwg pan gaiff gwasanaeth cynnal gwefan rhad ei ddefnyddio. Yma yn Website Express rydym ni’n frwdfrydig dros sicrhau bod y gwefannau rydym ni’n eu cynnal bob tro ar gael, ac yn llwytho ar gyflymder eithriadol o gyflym. Os ydych chi’n gofyn inni drefnu gwaith cynnal byddwn ni’n defnyddio gwasanaeth o safon uchel ac yn sicrhau bod eich gwefan yn:

  • Lawrlwytho’n gyflym – rydym ni’n aml yn profi’r cyflymder lawrlwytho er mwyn sicrhau bod hyd yn oed y tudalennau gyda llawer o luniau arnyn nhw’n ymddangos yn gyflym 
  • Dibynadwy – mae ein gwaith cynnal ni’n segur am y cyfnod byrraf posibl, ac mae gennym ni rybuddion sy’n sicrhau ein bod ni’n gallu ymdrin â phroblemau cyn eich bod chi hyd yn oed yn sylwi arnyn nhw 
  • Diogel – caiff gwybodaeth am waith cynnal ei chadw ar ddrych-weinyddwyr, wedi’i ddiogelu’n gadarn yn ôl gofynion adrannau’r llywodraeth