Marchnad Bwyd Maethlon GAIN
Marchnad Bwyd Maethlon GAIN
Roedd angen gwefan yn syth ar GAIN ar gyfer ei brosiect yn Rwanda, ond roedd yn gallu gweld y buasai angen mwy o wefannau yn y dyfodol, gydag o leiaf 5 marchnad arall ar ddyfod. Buasai angen i bob un fod yn ddwyieithog mewn Saesneg a’r iaith leol a buasai’n rhaid gallu mynd ar y wefan ar ffôn symudol ac mewn ardaloedd lle gall cyflymder rhyngrwyd fod yn wael. Yn hytrach na chreu cyfres o wefannau unigol, cynigodd Website Express un wefan newydd, lle’r oedd modd ychwanegu pob marchnad iddi’n hawdd pan fo angen. Mae gwefan ficro pob gwlad yn hawdd i’w gosod, gyda dewis ail iaith a chynnwys y mae modd i weinyddwr gwefan benodol ei greu a’i olygu fel rhan o adeiledd sydd wedi’i ragosod. Mae’r wefan wedi’i chynllunio i lwytho’n gyflym gan leihau defnydd o luniau ond drwy ddefnyddio technegau CSS3 er mwyn rhoi profiad gweledol da i’r ymwelydd. Mae’r storfa dudalennau a Rhwydwaith Darparu Cynnwys y gwasanaethau cynnal yn sicrhau ei bod yn ddibynadwy ac yn ymddangos yn sydyn. Mae cynllun sy’n llwyr atebol yn sicrhau ei bod bob tro’n edrych ar ei gorau ar gyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen.