Innovate Trust desktop screenshot
Y gofynion a’r atebRoedd Innovate Trust angen gwefan newydd fyddai’n gallu trosglwyddo ei neges i’w gleientiaid a rhanddalwyr eraill. Roedd angen gallu rheoli’r cynnwys yn ogystal â gallu cyfuno’r wefan gyda nifer o rwydweithiau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar gymaint o bobl ag y gallai.Y prif rhanddalwyr oedd:
  • Pobl sy’n defnyddio neu yn derbyn cymorth gan ei wasanaethau, gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr
  • Partneriaid allweddol neu noddwyr posibl (er enghraifft, Cynghorau Sir, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, noddwyr presennol)
  • Pobl sy’n chwilio am waith
Roedd y wefan yn cynnwys tudalen hafan gydag adran newyddion gaiff ei diweddaru’n rheolaidd ac adran prosiectau sy’n dangos yr holl feysydd gwaith gwahanol.Mae’r adran gyrfaoedd yn manylu’r holl gyfleoedd i weithio i neu wirfoddoli gydag Innovate Trust mewn gwahanol swyddi. Mae hysbysebion ar ffurf fideo ar gyfer gwahanol swyddi, sy’n cynnwys y defnyddwyr gwasanaeth, hefyd i’w cael yma.Roedd nodweddion eraill yn cynnwys adran amdanom ni/ein hanes, archif digwyddiadau, tudalen rhoi cyfraniad a ffurflenni cofrestru ar gyfer cylchlythyrau a swyddi.Ar y dudalen ‘cysylltu’ mae lluniau a bywgraffiadau o staff allweddol.