Moodle

Moodle
Os oes angen ichi ddarparu hyfforddiant yn effeithiol, yna mae Moodle yn gyfrwng heb ei ail ar gyfer creu a rhannu pob math o adnoddau dysgu ac addysgu. Mae cwmnïau preifat yn defnyddio mwy a mwy arno yn ogystal â sefydliadau addysg er mwyn darparu hyfforddiant ar-lein: o iechyd a diogelwch, i ddysgu am swyddi penodol neu waith cwrs academaidd. Mae’r sawl sy’n ymgymryd â’r hyfforddiant yn penderfynu ar gyflymder y ddarpariaeth ac mae modd cymryd profion i sicrhau eu bod wedi deall y pwnc. Rydym ni’n cyfuno Moodle i weithio’n ddidrafferth ac yn esmwyth gyda’ch gwefan Drupal.