Atebol

Atebol
I sawl busnes, mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio ffôn symudol neu lechen i ymweld â’u gwefan. Mae hyn yn achosi dwy brif her: sicrhau bod gwefan yn llwytho’n gyflym ar ddyfais o’r fath, a pharhau i fod yn ddeniadol i’r llygaid; a rhannu gwybodaeth berthnasol gyda’r sawl sy’n ymweld â’r wefan sydd gan amlaf ar fynd ac yn ei weld ar sgrin fach.Mae cynlluniau sy’n atebol yn caniatáu ichi gynllunio’ch gwefan, fel ei bod yn ymddangos ar ffurf sy’n hawdd i’w darllen ac i fynd o’i chwmpas ar sgrîn ffôn symudol neu lechen, ac mae hyn yn rhywbeth rydym ni bob tro’n ceisio’i gyflawni o’r cychwyn cyntaf.Gan ddibynnu ar eich anghenion penodol, fe allwn ni addasu ffurf y safle we ar ffôn symudol i gwrdd ag anghenion eraill, fel darparu cyfarwyddiadau ar fap i’ch lleoliad.