Ail-wobrwyo tystysgrif ISO 9001:2008 i Website Express
Mae’r asiantaeth ddatblygu Drupal o Gaerdydd, Website Express, wedi cyhoeddi heddiw fod y cwmni wedi derbyn tystysgrif rhagoriaeth ISO 9001:2008 unwaith eto. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad cynyddol y cwmni i ddarparu gwasanaeth datblygu gwefannau Drupal o’r safon uchaf i’w gwsmeriaid. Bu i Website Express dderbyn ei ardystiad ISO 9001:2008 gan IMSM Ltd.
Mae ardystiad ISO 9001:2008 yn cadarnhau bod Website Express wedi cwrdd â holl ofynion a safonau ISO ar gyfer System Rheoli o Safon y cwmni. Roedd dal gafael ar yr ardystiad ISO yn broses trwyadl oedd yn gofyn am fisoedd o waith paratoi, adolygiadau ac archwiliadau.
Mae sicrhau lefel uchel o foddhad cwsmeriaid a sefydlu prosesau ar gyfer gwella parhaus yn elfennau pwysig o’r proses ardystio ISO 9001:2008 ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad y cwmni i ragori ym maes darparu gwasanaeth datblygu gwefannau Drupal.
Fel busnes sy’n tyfu’n gyflym, mae Website Express wedi bod yn falch o arddangos logo ISO ers 2013, a gall rŵan hawlio cydymffurfiaeth ISO parhaus o 2013-2017.
Dywedodd William Velasco, y cyfarwyddwr: “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo gyda’n ardystiad. Fel mudiad, rydym ni’n credu fod ISO 9001 wedi ein helpu ni llawer i ddatblygu ein polisïau mewnol ac i ychwanegu strwythur i’r busnes sydd wedi tyfu llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ynglŷn ag ISO 9001:2008
Cafodd safon rheoli o safon ISO 9001:2008 ei datblygu a’i chyhoeddi gan y Mudiad Rhyngwladol dros Safoni (ISO) ac mae’n gosod rhaglen rheoli o safon i gwmnïau cynhyrchu a gwasanaethu.
Am fwy o wybodaeth am ISO 9001 ewch i: