Cyfarwyddwr Website Express wedi’i ethol yn Gymrawd urddasol o’r RSA

Cyfarwyddwr Website Express wedi’i ethol yn Gymrawd urddasol o’r RSA

Mae cyfarwyddwr Website Express, James Forbes Keir, wedi’i ethol yn Gymrawd o’r Royal Society for the encouragement of Arts, Manufactures and Commerce (RSA).

Mae’r RSA yn fudiad gwybodus sy’n ymrwymo i ddod o hyd i atebion ymarferol ac arloesol i’r sawl her gymdeithasol sy’n bodoli heddiw. Trwy ei syniadau, gwaith ymchwil a’i Gymrodoriaeth, mae’n “ceisio deall ac ehangu gallu dyn i gau’r bwlch rhwng realiti heddiw a gobeithion pobl am fyd gwell.”

Cafodd y mudiad ei sefydlu yn 1754 ac mae a’i gwmni yn Llundain. Bu i’r mudiad dderbyn Siartr Frenhinol yn 1847 a’r hawl i ddefnyddio’r term Brenhinol yn ei enw gan Frenin Edward VII yn 1908.

Mae Cymrodoriaeth RSA yn rhwydwaith o bobl o bob cefndir sydd wedi uno gyda’i gilydd trwy ddyhead i greu cymdeithas well. Mae yna Gymrodyr sy’n cydweithio er lles eu cymunedau mewn mwy nac 80 gwlad.

Mae RSA yn cefnogi Cymrodyr i ddatblygu rhwydweithiau a mentrau lleol. Trwy raglen Catalydd RSA mae’n rhoi arian ac arbenigedd i syniadau’r Cymrodyr sydd â’r nod o greu effaith gymdeithasol gadarnhaol.

Trwy ei waith, mae James yn cefnogi gwaith datblygu meddalwedd ffynhonnell agored ac yn darparu gwasanaethau technegol tra-fodern i fudiadau ariannol, addysgiadol ac anllywodraethol ledled y byd. Mae o a’i gydweithwyr yn edrych o ddifrif ar ddarpariaeth gwasanaethau e-ddysgu gan ddefnyddio fframwaith ffynhonnell agored Drupal i ddarparu arbedion effeithiol a mwy o gynhyrchiant i fudiadau sy’n gweithredu ar draws y byd.

Mewn ymateb i’r newyddion am ei Gymrodoriaeth, dywedodd James:

“Mae cael fy ethol yn Gymrawd o’r RSA yn fraint enfawr i mi ac i Website Express. Mae hi hyd yn oed yn fwy o fraint ymuno â chymdeithas sy'n fawr ei pharch gyda chyn-aelodau ac aelodau presennol sy’n cynnwys Charles Dickens, Adam Smith, Benjamin Franklin, Karl Marx, William Hogarth, John Diefenbaker; Stephen Hawking a Tim Berners-Lee ac sy’n ymrwymo i ddod o hyd i wasanaethau arloesol ac ymarferol sy’n mynd i’r afael a’r sawl her gymdeithasol sy’n ein hwynebu heddiw. Hefyd, mae fy etholiad i’r RSA yn cyd-fynd â nodau Website Express o greu gwir effaith ar fusnesau a galwedigaethau.”

Am fwy o wybodaeth am yr RSA ewch i

https://www.thersa.org/

The Royal Society of Arts in London