Cyfarwyddwr Website Express wedi’i ethol yn Gymrawd o’r Sefydliad Dadansoddwyr a Rhaglennwyr

Cyfarwyddwr Website Express wedi’i ethol yn Gymrawd o’r Sefydliad Dadansoddwyr a Rhaglennwyr

Mae James Forbes Keir, cyfarwyddwr Website Express, yr asiantaeth Drupal yng Nghaerdydd, wedi’i ethol heddiw yn Gymrawd o’r Sefydliad Dadansoddwyr a Rhaglennwyr. Dyma sefydliad proffesiynol mwyaf blaenllaw Prydain i’r rhai sy’n gweithio ym meysydd datblygu, gosod a phrofi systemau busnes a meddalwedd cyfrifiaduron.

Cyngor rheoli’r corff sy’n penderfynu ar bwy gaiff dderbyn gradd uchaf y Sefydliad.

Yn ôl y Sefydliad, mae Cymrodyr yn “bobl broffesiynol arbennig sy’n mynd y tu hwnt i ofynion Aelod o gryn dipyn, ac sydd wedi treulio rhan helaeth o’u gyrfa mewn swyddi gyda chyfrifoldeb sylweddol.”

Fe astudiodd James Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu yna’n gweithio mewn sawl swydd TG yng Nghaerdydd cyn mynd ymlaen i fod y Rheolwr Datblygu Gwefannau cyntaf i fudiad y Fagloriaeth Ryngwladol ac yna’n Strategydd Technegol.

Yn 2008 daeth yn un o sylfaenwyr Website Express lle mae’n parhau i oruchwylio gwaith technegol y cwmni ar y cyfan fel Cyfarwyddwr Technegol.

O 2013-2016 bu’n gwasanaethau ar Fwrdd Cenedlaethol y Bwrdd Crwn ym Mhrydain ac Iwerddon fel Swyddog TGCh Cenedlaethol lle’r oedd yn gyfrifol am foderneiddio isadeiledd TGCh y mudiad.

Yn sôn am ei etholiad diweddar, dywedodd James: “Mae cael fy ethol yn Gymrawd o’r Sefydliad Dadansoddwyr a Rhaglennwyr yn fraint i mi ac i Website Express, ac rydw i’n ddiymhongar iawn wrth dderbyn y gydnabyddiaeth hon gan fy nghyfoedion yn y diwydiant. Rydw i’n edrych ymlaen at gyfrannu llawer iawn mwy i’r diwydiant dros y blynyddoedd nesaf gyda’r gydnabyddiaeth uwch y mae bod yn Gymrawd o’r Sefydliad yn ei gyflwyno i mi.”

Am fwy o wybodaeth ar y Sefydliad Dadansoddwyr a Rhaglennwyr ewch i

http://www.iap.org.uk

The Institution of Analysts and Programmers' Coat of Arms