Website Express wedi ei gydnabod fel Buddsoddwr mewn Pobl
Mae Website Express, sydd a’i chanolfan yng Nghaerdydd, yn asiantaeth datblygu Drupal blaenllaw sydd wedi derbyn achrediad yn erbyn y Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n dangos ei ymrwymiad i safon uchel trwy waith rheoli pobl da.
Cafodd Website Express ei sefydlu yn 2008, pan ddaeth grŵp o bobl ifanc proffesiynol ym maes TG at ei gilydd i ddechrau darparu gwasanaethau gwefan gwell i gwmnïau yng Nghymru a de orllewin Lloegr.
Heddiw mae Website Express a’i chanolfan yng Nghaerdydd, ac yn darparu gwefannau i gleientiaid ar draws y byd, mewn sawl iaith. Mae ei gleientiaid yn cynnwys mudiadau bach a mawr, o fudiadau busnes, addysg a’r trydydd sector.
Buddsoddwyr Mewn Pobl ydy’r safon ryngwladol ar gyfer gwaith rheoli pobl, gan ddiffinio beth sydd ei angen er mwyn arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol er mwyn cyflawni canlyniadau cynaliadwy. Mae’r fframwaith Buddsoddwyr Mewn Pobl yn sail i’r Safon ac yn dangos y tueddiadau diweddaraf yn y gweithle, sgiliau hanfodol ac adeileddau effeithiol sydd eu hangen i berfformio’n well mewn unrhyw ddiwydiant. Mae Buddsoddwyr Mewn Pobl yn gadael i bobl feincnodi yn erbyn y goreuon yn y busnes ar raddfa ryngwladol.
Bu i Website Express dderbyn achrediad cyntaf yn erbyn Safon Buddsoddwyr Mewn Pobl yn 2012 ac yn dilyn ail-werthuso eleni gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, bydd yn cynnal y safon hon o 2012-2019.
Dywedodd Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr Mewn Pobl: “Hoffem ni longyfarch Website Express, mae achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl yn arwydd o gyflogwr gwych; gweithle sy’n perfformio’n well nag eraill ac ymrwymiad amlwg i lwyddo. Dylai Website Express fod yn hynod falch o’r hyn mae wedi’i gyflawni.”
Wrth sôn am y wobr, dywedodd William Velasco, y cyfarwyddwr: “Yma yn Website Express rydym ni’n deall beth ydy gwerth perthynas hirhoedlog. Mae cwsmeriaid a chyflenwyr yn hanfodol er mwyn inni allu parhau ac mae cyfathrebu llyfn a didrafferth wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant. Mae cyflawni’r wobr hon yn pwysleisio ar ein brwdfrydedd dros ddarparu gwasanaethau arbennig ar- lein.”
Am fwy o wybodaeth am Fuddsoddwyr Mewn Pobl ewch i